gyferbyn ai lygaid.) Mae ma dolc ne ddau arno fo hefyd. Estyn y plaen arall na. (Estynnir ef, a chais Jared blaenio, ond yn ofer.) Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed?
HARRI: Do, am spel, mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi.
JARED: Oh, felly wir! Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar.
HARRI: O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn.
JARED: Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"—P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ol y dicsionari.
HARRI: Tybad, mistar? "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê?
JARED: Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell yn siwr iti.
HARRI: Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor.
JARED: Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren