Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maes gerllaw Ynys-y-Beirdd (Bardsey), ac efallai y dylem hefyd ddywedyd mai tarddiad y gair "Cwmmwd" yw cym=Llad. cum=cyd, a bod. Oddiyma yn ddiau y cawn y gair cymmydog, ac onid Cymraeg yw y gair Seisnig commot? III. Dinllaen, sef enw cyssylltiedig â Phorth-din-llaen=Porth-du-yn-Lleyn,(!!) fel y dychymyga un breuddwydiwr, ac fel y dangosir genym ninnau yn nês ym mlaen.

Cynnwysa y Gaflogion (1) Denio, (2) Carngiwch, (8) Penrhos, (4) Llanbedrog, (5) Llanfihangel Bachellaeth, (6) Llangian, (7) Bottwnog, yng nghyda Threfodfel, sef rhan o blwyf Llannor, Tre'rsoch, sef rhan o blwyf Llanengan, Tre'rglynne, sef rhan o blwyf Llaniestyn, a rhan fechan o blwyfi Meyllteyrn a Bryncroes.

Cynnwysa Committmaen (1) Aberdaron, (2) Bodferin, (3) Bryncroes, oddigerth ychydig, (4) Llandegwning, (5) Llanengan, oddigerth Tre'rsoch, (6) Llanfaelrhys, (7) Llangwnadl, (8) Meyllteyrn (rhan), (9) Penllech, (10) Rhiw, gyda rhan o Dydweiliog.

A chynnwysa Dinllaen (1) Edeyrn, (2) Ceidio, (8) Llandudwen, (4) Bodfuan, (5) Nefyn, (6) Pistyll, (7) Llannor, oddigerth Trefodfel, (8) Abererch, sef y rhan sydd ar yr ochr Orllewinol i Afon Erch, (9) rhan o Laniestyn a Thydweiliog.

Ymddengys yr enwau uchod yn esgyrn tra sychion, ond rhaid i ni gofio mai anfynych y cawn wlêdd o basgedigion breision heb esgyrn-caffed amynedd ei pherffaith waith.

Ach-restr yr Urddasolion.

DDECHREU, ni a olrheiniwn deulu Nanhoron, yr hwn sydd yn tarddu o lwythau brenhinol Cymru, trwy Rhys ap Gruffydd, ap Llewelyn Fychan,