Geltiberiaid. Wrth gadw ein meddwl i ystyried aneirif ffeithiau hên a diweddar, yr ydym yn cael ein tueddu i goleddu barn fod yr Amddiffynfa hon yn dal cyssylltiad â'r Celtiberiaid uchod, sef yr ail dô âg y mae hanes genym am danynt yn y rhan yma o'r wlad. Nid am ein bod yn ystyried fod gwahaniaeth oes rhwng y Wersyllfa hon â'r un sydd gerllaw Meillionydd, er y buasai hyny yn wir, yr ydym yn dywedyd hyn, ond yn benaf er mwyn chwilio allan olyniaeth y goresgynwyr, y rhai a fuasent yn ddieithriad yn gwneuthur defnydd o'r hên amddiffynfeydd, ac weithiau am fwy o amser na'r bobl fu yn adeiladu, Y mae llawer o bethau yn y ddwy Wersyllfa yn hynod o debyg i'w gilydd—cymmaint felly fel y buasai yr anghyfarwydd yn barnu mai yr un dwylaw fu yn eu llunio; ac o ganlyniad, nad oes wahaniaeth rhwng y naill a'r llall. Ymddengys defnydd a chynllun y mur a'r rhag-fur efelychiad o'r un gwasanaeth a'r un gelfyddyd, fel y buasid heb gyfarwyddyd yn barnu eu bod yn perthyn i'r un oes yn hollol, heb arwyddion o un math o gyfnewidiad (transition). Ond wrth sylwi a holi yn fanylach, cawn fod hyn yn wir, ond nad yw yr holl wir. Chwi a wyddoch na thâl y gwirionedd ddim mewn llys, heb yr holl wirionedd. Y mae rhywbeth yn natur dyn yn gofyn am y cwbl. Rhoddwch afal i blentyn, y peth nesaf fydd arno ei eisiau fydd y gweddill. Y mae natur pethau hefyd yn gofyn am gyfanrwydd. Ai tybed fod gwir yn wir, heb yr holl wir? Ai tybed fod un-geiniog-ar-ddeg yn swllt heb y deuddeg? Gan hyny, gadawer i ni ddilyn deddfau y gwir gyda phethau o'r natur yma can belled ag y gellir cael gafael arno.
Fel rheol, adeiledir cestyll ein gwlad yr un mor ddiogel gylch-ogylch; hyny yw, nid ydym yn gyffredin yn cael un rhan o'r rhag-fur yn wanach na'r llall. Ond nid felly yr oedd amddiffynfeydd y brodorion cyntaf. Gallwn feddwl nad oedd eu brwydrau hwy mor gyffredinol â'r brwydrau diweddaraf y darllenwn