EDRYDD y llyfr doethaf a sgrifennwyd erioed nad fod un gŵr doeth gynt wedi dywedyd oes dim newydd tan haul. Ganrifoedd lawer ar ei ôl, medd yr un Hen Lyfr, dywedodd gŵr doeth arall fod yr hen bethau oll wedi mynd heibio a phopeth wedi ei wneuthur o'r newydd. Llawer un heblaw'r Iddew gynt, a Thomas Williams yr emynwr o Forgannwg, fu'n hiraethu am allu ehedeg, ar adanedd y wawr neu ar ddwy adain colomen. Dychmygodd rhyw Wyddel anhysbys ganrifoedd yn ôl am long yn yr awyr yn aros uwchben ffair yn Iwerddon. Dywedodd brudiwr o Gymro am elyn yn dyfod mewn llongau dan y môr. Edrydd "Cyfranc Lludd a Llefelys" am bobl a glywai bopeth a ddywedid yn unman, od âi i afael y gwynt, hynny yw, i'r awyr.
Nid dychmygion moel mo'r pethau hyn erbyn heddiw. Yn ein cyfnod ni, fe ddaeth, a hynny gyda'i gilydd, nifer o bethau rhyfeddol, nes bod dynion heb fod eto'n hen yn cofio byd gwahanol iawn ac yn dywedyd yn fynych wneuthur popeth o'r newydd. Ac eto, dyn yw dyn, ac nid oes dim newydd tan haul.