unig wahaniaeth rhyngddi ag iaith y "bugeiliaid" eraill. Yr unig eiriau Cymraeg yng ngwaith Spenser, hyd y sylwais i, yw'r termau "ysgwyd werdd" ac "ysgwyd goch," oddieithr enwau priod. Sylwer hefyd fod rhyw y gair ysgwyd yn gywir ganddo yn y naill derm (yscuith gogh) ac yn anghywir yn y llall (scuith guirith). Ond nid oedd ef yn anwybodus am hanes y wlad. Yr oedd yn byw yn oes Elsbeth, a chafodd ganddi dair mil o aceri o dir lladrad yn sir Cork. Rhan o'r tâl am hwnnw, y mae'n ddiau, oedd ei ganmoliaeth i Gymru. Yn y Trydydd Caniad o'i Drydydd Llyfr, canodd glod y Cymry yn eu rhyfeloedd â'r Saeson, a gwnaeth ddefnydd o ystraeon y Brudiau am lwyddiant teulu Tudur:
Ne shall the Saxons selves all peaceably |