Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn ei gerdd fywiog "The Battle of Agincourt," wrth ddisgrifio'r fyddin Brydeinig oedd yno, nid anghofia yntau ofynion y cyfnod:

Thus as themselves the Englishmen had shew'd
Under the ensign of each sev'ral shire,
The native Welch, who no less honour ow'd
To their own King, nor yet less valiant were,
In one strong reg'ment had themselves bestow'd,
And of the rest resumed had the rear;
To their own quarter marching as the rest,
As neatly arm'd, and bravely as the best.

Yna rhydd ddisgrifiad o filwyr y Siroedd Cymreig yn ymdaith, a pha beth oedd eu baneri. Gwŷr Penfro, "those men of South Wales of the mixed blood," oedd ar y blaen, ac ar eu baner lun cwch ac arglwyddes yn ei rwyfo. Yna, gwŷr Caer fyrddin, ac ar eu lluman lun Myrddin yn pwyntio at seren. Castell oedd arwydd gwŷr Morgannwg, a thair coron oedd nod Mynwy. Am wŷr Mynwy, dywed y bardd beth tebyg iawn i'r hyn a ddywedodd Islwyn gymaint o amser ar ei ôl:

The men of Monmouth (for the ancient love
To that dear country neighbouring them so nigh).

Ffordd dda o gydnabod pethau! Yna daw'r siroedd eraill a'r arwyddion isod ar eu baneri: Brycheiniog, pabell ryfel; Maesyfed, mynydd