Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddychymyg wedi gorweithio (ac mewn canlyniad wedi gwanychu) un neu ddau o'i syniadau: megys

am—

Lidiart y fynwent a'i 'sgrech ar ei hechel
Wrth dderbyn y meddwon i 'stafell y bedd!—

ac eilwaith,

Mae'r blodeu sy'n tyfu ar feddrod y meddwyn
Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw.

Ond ar y llaw arall ceir yn y caniadau hyn ddychymyg mor naturiol a'r ffynon fechan loyw gerllaw'r tŷ,

Mysg glaswellt, brwyn, a dail;

a'i dafnau yn disgyn tros y ceryg mwsoglyd,

I chwareu yn yr haul.

Dyma ffrwd fechan mor glir a gwlith y boreu—

Os oer a chymylog yw'r diwrnod,
Os crinwyd pob deilen fach werdd;
Mae haf ar ein hachos yn dyfod,
O! cadwn yn ysbryd y gerdd.

Ac eto:

Llifwch allan, ddyfroedd byw,
I gadw lili'r dŵr yn fyw,
A'i blodau'n wyn o hyd. * * * *}
Dirwest anwyl, tyf i fri,
Hardd lili wen y dŵr wyt ti.
A cher pob bwth yn Nghymru wen,
O cyfod di dy ben.

Ond o'r gyfres ddirwestol, y gân fwyaf barddonol yn ddibetrus yw yr un a enwir "Ar ddôl pendefig." Y mae yn hono ddychymyg byw; ac y mae y diweddglo mor rymus ag yw o gynhyrfus. Dodwn.

i riangerdd "Myfanwy Fychan?" Y mae cân Hywel ar y beithynen yn llawn o