darnau da eraill. Deil y rhiangerdd hon yn dda i'w darllen lawer gwaith; a chan fod ei chynlluniad yn well nag un gerdd arall o eiddo Ceiriog—er nad yn berffaith—y mae hyny yn ei gwneud yn destyn. da i feirdd ieuainc i'w astudio.
Mor bell ag y mae y cynlluniad yn myned, nid yw Ceiriog wedi gwahaniaethu nemawr rhwng rhiangerdd a bugeilgerdd. Dywedais mai un coll yn nghelfyddydwaith ei riangerddi yw ei fod yn cymeryd oddiar y dramatis persona yr hawl i adrodd yr holl hanes eu hunain. Rhaid i mi eto ddangos ei fod yn ei fugeilgerddi wedi gadael safon—au llenorol.
Y mae bugeilgerddi Theocritus a Virgil wedi eu cyfansoddi ar y dull ymddyddanol; ac y mae Edward Richards wedi eu dilyn yn ei ddwy fugeil—gerdd yntau. Ai nid gwell fyddai cadw titlau Ilen—yddol yn barchus? Os rhiangerdd, naill ai gadawer i'r cymeriadau gael yr hanes oll i'w dwylaw eu hunain, gan ei adrodd mewn unawdau trefnus; neu gadawer i'r bardd ei adrodd drostynt o'r dechreu i'r diwedd. Y mae Gwen Mr. Lewis Morris, a Victories of Love Mr. Coventry Patmore yn engreiphtiau o'r dull cyntaf; a cheir engreiphtiau godidog o'r dull olaf yn mhlith caneuon gwerin Llydaw, a Border Ballads yr Alban. Ond os bugeilgerdd, rhodder cyfle i ddau neu fwy o gymeriadau weithio allan destyn y gân mewn cydymddyddan. Wrth eiriol fel hyn dros gadw safonau llenoriaeth yn fwy clir, yr wyf yn sicr mai bendith i'n barddoniaeth gartrefol a ddeilliai o'u hystyried a'u cadw. Y mae profiadau drud oesoedd dirif cerdd y tu cefn i'r safonau hyn.
Wrth ddweyd nad yw Ceiriog wedi gwahaniaethu nemawr rhwng bugeilgerdd a rhiangerdd, o ran cynlluniad, gellir yn awr fyned gam yn mhellach a dweyd mai rhiangerddi, i bob amcan llenyddol, yw