Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Owain Wyn" ac "Alun Mabon." Y "rhian" yn ngherdd "Owain Wyn" yw Olwen: ei serch hi yw bywyd y rhan gyntaf o'r gerdd; ac onid ei bedd hi yw canolbwynt yr ail ran? Pan yw Owain y mab—yn dychwelyd yn ol o'i grwydriadau pellenig:—

Tros un o drumiau Berwyn,
Ryw noson ddistaw oer,—

yr olwg ar fedd ei fam sydd yn dihuno'r teimladau dyfnaf. Y mae yn "myned heibio i ddrws ei gartref" er mwyn cyrhaedd y fynwent.

A threulio'r noson hono
Ar fedd ei fam wnaeth ef,
Nes suddo'r seren foreu
I eigion gwyn y nêf.

A beth yw diwedd y gân ond bedd Olwen:—

Yn awr wrth ochr Olwen
Yn mynwent fach y plwy',
O dan yr un dywarchen
Y cydorweddant hwy.

Hawdd fyddai dadleu yr un fath dros ystyried cerdd" Alun Mabon" fel rhiangerdd Menna. Beth a enillir wrth feirniadaeth fel hyn? Clirder a gweddeidd-dra llenorol.

Wedi'r cyfan, pe gelwid y rhosyn yn ysgallen, aroglai yr un mor felus. Yr un modd am farddoniaeth bugeilgerddi Ceiriog. Os gwnaeth ychydig gamsynied yn y cynlluniad, y mae swyn yr awen yn aros ynddynt, yn aros fel hyfrydedd natur rhwng y bryniau tawel.

Nid oes llawer o ystori yn "Alun Mabon:" diflas ddigon yw gosod ffrae rhwng gwr a gwraig yn ganolfan cerdd. Pa mor foddhaol ac mor bleserus bynag fyddo ffraeon yr aelwyd, prin y maent yn werth canu am danynt. Byddai awgrym yn ddigon, heb ddyfynu holl araith Mrs. Mabon; dylai awdwr