Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid o ddig neu gynfigen
Y gyrrais i'r geiriau sen;
Ond o gariad i gywrain
Ddawn cu dy farddoni cain,
Tawaf—gobeithiaf ca'i beth
O'th hoew—blawdd farddwaith hybleth.
Byd hyfryd boed a hoew—fri,
A gwynfyd, Tegid, i ti:
Heb ddolur, heb ddu elyn,
A siriol oes, medd Siarl Wyn.


YSGOL RAD Y BALA.

A fyfyriwyd wrth ymweled ag Ysgol Rad y Bala, yn ol marwolaeth fy hen athraw,
a diffuant gyfaill, Mr. Evan Harries.

Mil henffych iti, orhoffusaf dud!
Anwylach wyt nag unman yn y byd!
Wyt anwyl im, wrth gofio'r athraw cu
A'm dysgai ynnot—yr ieuenctyd lu
O'th gylch chwareuai, 'n nyddiau llon fy rwyf,
Fy ysgafn fron, ddieithr i boen a chlwyf.
Mae pob rhyw lwyn, a phob rhyw garreg bron,
Yn dwyn i'm cof ryw adgofiadau llon,
Neu anhap gas—neu ryw chwar'yddiaeth fwyn
Y digwyddiadau fu yng nghil y llwyn.
 Hyn oll aeth heibio—'n awr eu coffa fydd
Yn llenwi'm bron â pharchedigaeth prudd.
Y wig oedd wech, delwedig ydyw'n awr,
Yr ardd oedd hardd, anurddawl yw ei gwawr,
A llaw 'r gormeilydd Amser, amlwg yw,
Ar oll o'th gylch, ar bob planhigyn gwyw;
Ond uwch pob dim sydd yn anurddo'th wedd
Y mwyaf oll, fod Harries yn y bedd.