Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gan roddi iddo'r grib tair pluen,
A'i godidawg air Ich Dien.

Cadwgan Foel, rhaid cofio hynny,
Oedd yn gadben ar y Cymry;
A thrwy y Cymry, nid y Saeson,
O dan Cadwgan ddewrwych galon,
Gwenynen Gwent! ond i chwi holi,
Yr enillwyd ymladd Cressi.

Pan ar ei fyddin bu i'r gelyn
Wneuthur ymgyrch waedlyd gyndyn,
Y Saeson oedd o bell yn gweled
Yr ymladdfa waedlyd galed;
Gwenynen Gwent! heb le i helpu
Yn y frwydr fechgyn Cymru.

Y maes oedd lawn o genin gwylltion.
Myrddiynau ar fyrddiynau'n dewion;
Er mwyn gwybod gwedi'r ymdrin
Pa sawl Sais oedd yn ei fyddin,
Gwenynen Gwent! bu i Gadwgan
Roi gorchymyn fal hwn allan,—

Boed i'r Cymry yn fy myddin
Yn eu helmau wisgo cenin,
Yn eu helmau uwch eu talcen; Ond na wisged Sais geninen."
Gwenynen Gwent! ni chafwyd dano,
Ond naw ar hugain heb ei gwisgo.

Dyma'r pryd dechreuwyd gwisgo
Y geninen gan y Cymro;
Yn Agincourt fe'i gwisgwyd gwedi
Gan filwyr Cymru ar gais Harri,
Gwenynen Gwent! er ymladd Cressi
Gwisgasom genin ar ŵyl Dewi.