Gwirwyd y dudalen hon
- bydd swm yn cael ei dynnu o’r grant bloc sylfaenol, ac mae faint wrthi’n cael ei drafod rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yna’n gallu gwario faint bynnag y codir gan ardrethi busnes yng Nghymru yn hytrach na faint a bennir gan fformiwla Barnett;
a
- bydd y ffactor cymhariaeth Barnett ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru’n cael ei newid o 100% yn 0%, hy, bydd symiau canlyniadol Barnett yn llai nag o dan y trefniadau presennol oherwydd bydd unrhyw newid i gyllideb Llywodraeth Cymru (yng nghyswllt ardrethi busnes) yn seiliedig ar y newid mewn refeniw o ardrethi busnes yng Nghymru yn hytrach nag yn Lloegr (drwy symiau canlyniadol Barnett).