Gwirwyd y dudalen hon
ddyn a dynes yn rhedeg nerth eu traed tua'r gwrych, a tharw cynddeiriog ar eu holau. Yr oedd y dyn ar y blaen i'r ddynes ymhell, ac yn rhedeg â'i holl egni. Cyn pen yr eiliad, yr oedd dros y gwrych ychydig lathenni oddiwrth Dico.
A gwelodd Dico mai Harri Puw ydoedd.
Y funud nesaf, yr oedd Dico yn y cae ac yn rhedeg â'i holl egni i gyfarfod y tarw gwyllt. Pasiodd y ddynes ef toc ar ffo tua'r gwrych.
"Rhedwch!" ebr Dico, ac yn ei flaen âg ef i gyfarf od y tarw.
A rhedodd Mrs Puw am ei hoedl, ac aeth dros y gwrych, a chafodd hyd i'w gŵr yn y ffordd, led dau gae ym mhellach, yn ei disgwyl.
Fore drannoeth, yn gynnar, yr oedd yr hanes ar led yn y dref fod tarw Plas Draw wedi lladd Dico Bach, a'u bod wedi cael ei gorff ar y cae.