Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. YR HEN GARTREF.

"DIOLCH am gael dwad o'r diwedd!" ebr dyn canol oed wrth ddisgyn o'r tren yn stesion Llanefron, tua deg o'r gloch un noson ym mis Awst.

Yr oedd Llanefron wedi altro yn arw yn ystod ugain mlynedd. Prin yr oedd yno ddim yr un fath yn union. Pentref bychan ydoedd gynt, a rhyw ddeucant o dai ynddo ar y goreu, y rhan fwyaf ohonynt yn fychain iawn, ac yn sal dros ben. Yr oedd yno ryw ddwy siop yn gwerthu bwyd a dillad, dwy dafarn, un capel ac un eglwys. Rhyw drichant o bobl oedd yn byw yno, y rhan fwyaf o'r dynion yn labro ar y ffermydd o gwmpas, a rhyw ddeg ar hugain neu ddeugain yn gweithio yn chwarel y Coed Bach, tua phum milltir oddi yno. Byddai rhyw ddwsin o'r bobl yn mynd i'r eglwys, rhyw ddeucant yn mynd i'r capel, a'r gweddill yn bwrw'r Sul heb fynd i unman.

Ond daeth tro ar fyd. Yr oedd y ffordd haearn yn rhedeg heibio'r lle, a gwelodd rhywrai fod yno gyfle i wneud arian. Yr oedd y môr yn agos, ac yr oedd yr ardal yn un iach. Daeth rhyw ŵr dieithr yno un diwrnod, ac aeth o gwmpas i weled y lle. Nid oedd fawr o gamp ar y pentref ei hun. Bychain a budron oedd