Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y rhan fwyaf o'r tai, ac arogl lludw a dŵr golchi lloriau yn llenwi'r awyr o'u cwmpas bob amser. Ni thalodd yr estron ond ychydig sylw i'r pentref, ond yr oedd yr ardal o'i gwmpas yn ei blesio yn fawr. Yr oedd y pentref yng ngwaelod y pant, ac afon fechan yn rhedeg drwy ei ganol. Ar du'r dwyrain, yr oedd y tir yn codi yn raddol nes cyrraedd cryn uchter, ac ar y llethr ddymunol honno yr oedd cryn nifer o dai bychain a gardd go helaeth yn perthyn i bob un ohonynt. Yr oedd pobl yn byw yn weddol daclus yn y tai hynny, ond nid yn ddi-drafferth ychwaith. Yr unig rai sydd yn medru byw yn ddi-drafferth yn y wlad hon yw'r rhai sy'n gwneud dim. Gweithwyr oedd yn byw yn y tai y soniwyd am danynt, ond trwy eu bod yn byw yn gynnil ac yn syml ac yn gwneud y goreu o'r ardd a'r cut mochyn, yr oeddynt yn medru talu eu ffordd yn lled dda. Yn eu plith yr oedd amryw yn berchenogion eu tai eu hunain. At y rhai hynny yr aeth y gŵr dieithr, a chyn pen ychydig amser yr oedd wedi prynu'r tai a'r gerddi am ychydig bunnau, a'r hen drigolion yn gorfod troi i chwilio am gartrefi ereill.

Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion lle'r oedd y bythynod a'r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt. Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho'r llethr a'i llenwi â thrigolion. Yr oedd