Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III. SAM.

Ci oedd Sam. Dwywaith erioed y gwelais ef, ond bu'n gyfaill pur i mi. A chofiodd fi yn hwy na llawer "cyfaill" arall a fu i mi. Y mae ugain mlynedd, oes, a rhagor, er hynny. Rhaid fod Sam wedi marw. Nid wn i ym mha le y claddwyd ef. Ond dyma air er cof am dano.

Hogyn deg oed oeddwn, ac yn ddieithr yn yr ardal. Yr oedd fy nhad wedi symud yno o ardal arall, ddeugain milltir i ffwrdd. Ffermwr ydoedd fy nhad. Yr oedd dydd Calanmai wedi dyfod, ac yr oeddwn i a'm brawd yn y ffarm newydd ers rhai dyddiau, a fy nhad wedi mynd ymaith i'r hen gartref i nol fy mam a'r brawd ieuengaf, y pryd hwnnw yn fachgen bychan penfelyn teirblwydd oed, ac erbyn heddyw yn ei fedd yn huno'n dawel yn ymyl ein mam.

Yr oeddwn i wedi cael gorchymyn i fynd i'r dref ar ryw neges neu gilydd, ac wedi mynd. Yr oedd y tywydd yn braf, yn wir, yr oedd yr haul yn boeth iawn a'r ffyrdd yn llychlyd, er nad oedd hi ond y cyntaf o Fai. Yr adeg honno, yr oedd y gwanwyn a'r haf yn dyfod yn gynharach ac yn llawer brafiach nag ydynt erbyn hyn. O leiaf, dyna fel y mae'n ymddangos i mi. Euthum i'r dref ar y neges. Nid