Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn dyner. Buom felly yn ffryndiau mawr hyd nes euthum i gysgu y noswaith honno.

Erbyn i mi godi drannoeth, yr oedd Sam wedi myned ymaith drachefn i'r lle arall i ganlyn y meistr a'r gwas, ac ni welais innau mohono mwy hyd nes daeth o hyd i mi yn fy nghyfyngder ac yr achubodd fi rhag llid yr hogiau drwg y diwrnod hwnnw, dros chwe mis ar ol yr amser y cedwais i chware teg iddo yntau.

Dyna hanes fy nghydnabyddiaeth i a Sam. Ni welais byth mohono ar ol y diwrnod hwnnw, ond nid anghofiaf byth am dano. Ci defaid ydoedd, ci cryf, braf, a blewyn melyn, sidanaidd, llaes arno, ci bonheddig, call, a chywir. Dywedais yr hanes wrth aml i un ar ol hynny. Gwelais rai yn gwenu, ac yna byddent yn awgrymu nad oeddynt yn rhyw barod iawn i'w gredu. Nid gwaeth gennyf fi, ond mi wn un peth. Ni wyddai y personau hynny ddim am gwn. Nag am ddynion ychwaith