Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV. YNGHWSG AI YN EFFRO?

YR oedd Morris Jones wedi priodi, wedi bod i ffwrdd am y mis mel, ac wedi dyfod adref i ddechreu byw.

Yr oedd ganddo dŷ bychan glanwaith a chyfleus yn Llanfodlon, ac yr oedd wedi ei ddodrefnu yn barod, fel nad oedd drafferth yn y byd yn aros ei wraig pan ddygodd o hi i'w ganlyn i'w chartref newydd.

Ond nid oedd Hannah yn fodlon. Yr oedd hi yn gweled y tŷ yn anhwylus, ac nid oedd y dodrefn yn hollol wrth ei bodd ychwaith. Nid hynny, sut bynnag, oedd yn ei phoeni fwyaf.

Yr oedd hi wedi cael y syniad i'w phen rywsut fod Morris yn edifarhau ei fod wedi priodi.

Yr unig reswm oedd ganddi dros dybio felly oedd ei fod ef ar ol eu priodas yn llawer iawn distawach a mwy digalon ei olwg nag ydoedd cynt.

Nid oedd hi wedi dywedyd dim wrtho am y peth. Yn wir, yr oedd arni ofn son am dano, rhag digwydd fod ei thybiau yn gywir. Yr oedd arni ofn ei bod hi ei hun wedi gwneud neu ddywedyd rhywbeth i'w ddigio, ond er meddwl llawer am ei gweithredoedd a'i geiriau, nid allai hi yn ei byw alw i gof ei bod wedi gwneud