Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na dywedyd dim y dylasai efô fod yn ddig wrthi o'i blegid.

Ceisiodd ei pherswadio ei hun mai dychymig oedd y cwbl, ac nad oedd dim byd o'i le ar Morris ychwaith.

Hwn oedd y diwrnod cyntaf iddynt ill dau yn eu cartref newydd. Daethant adref ar hyd y nos o Lundain, ac felly cyrhaeddasant i Lanfodlon tua deg o'r gloch y bore. Aeth Morris at ei waith i'r offis lle'r oedd yn glerc, a daeth adref i'w ginio, y cinio cyntaf iddo yn ei dŷ newydd, a'r cyntaf i Hannah ei ddarparu iddo.

Hwyrach mai y cinio oedd heb fod wrth ei fodd. Daeth hynny i feddwl Hannah, ond erbyn ystyried, nid dyna oedd achos distawrwydd a digalondid Morris. Yr oedd o yn ddistaw a digalon cyn amser cinio.

Penderfynodd Hannah wneud ei goreu, pa beth bynnag oedd yr achos. Meddyliodd am wneud y lle mor siriol ag y gallai ar ei gyfer erbyn y deuai adref i gael te. Bu wrthi drwy'r prynhawn yn taclu pethau, ac erbyn amser te, yr oedd y tŷ yn edrych yn siriolach lawer, er nad oedd y dodrefn yn hollol wrth fodd Hannah.

Daeth Morris i nol ei de, ond yr oedd cyn ddistawed a chyn brudded ei olwg ag o'r blaen. Ceisiodd Hannah fod yn siriol a siaradus, a gwnaeth hynny i Morris edrych dipyn yn llonnach ei hun. Siaradodd dipyn â hi hefyd, ond nid cymaint âg arfer. Yr oedd rhywbeth yn ddiau yn