Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pwyso ar ei feddwl o hyd. Aeth yn ei ol at ei waith, gan adael Hannah yn bur ddigalon.

Ond wedi meddwl a meddwl, penderfynodd Hannah wneud un ymdrech arall. Aeth ati i wneud y lle yn siriolach fyth, ac i ddisgwyl Morris adref i'w swper.

Yr oedd Morris yntau wrthi gyda'i waith yn yr offis, ond yn dra chythryblus ei feddwl o hyd am ryw reswm neu gilydd. Gofynnodd un o'i gyd-glercod iddo yn chwareus,—

"Morris, be sydd arnat ti? 'Rwyt ti yn edrych yn ddigalon iawn. Wyt ti yn edifaru priodi, dywed?"

Ceisiodd Morris chwerthin, ond nid atebodd air. Daeth amser cadw noswyl, ac aeth Morris allan o'r offis. Cerddodd yn ei flaen ar hyd yr ystryd, nid tua'i gartref, ond i'r cyfeiriad arall yn hollol.

Gwelodd y clerc y soniwyd am dano eisoes ef yn mynd, a meddyliodd am alw ar ei ol a gofyn o ran direidi a ydoedd wedi anghofio ei fod wedi priodi, ond meddyliodd nad oedd hynny ond peth ofer. Diau fod gan Morris ryw neges yn rhywle, ac yr oeddynt wedi herian digon arno eisoes yn ddiameu. Felly cafodd Morris lonydd y tro hwn, ac aeth yn ei flaen yn araf drwy'r dref, ac allan i'r wlad. Pe buasai y clerc arall yn ei weled yn mynd y ffordd honno, buasai yn synnu, hyd yn oed os na buasai yn gofyn iddo i ba le yr oedd am fyned.