Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ym mhle?" ebr Beti.

"Ond yn y dwr."

"Ond fuo fo 'rioed yn y dwr o'r blaen, mi foddiff yn siwr! Ewch i'w nol o!" ebr Beti.

"Mae o'n nofio yn braf!" meddai'r capten.

"Nofio, a fynte erioed wedi gweld y môr o'r blaen?"

"Ie, siwr," meddai'r capten, "ond oedd y Morysiaid i gyd yn medru nofio o'u mebyd."

Ac yr oedd Sion yn y dwfr yn nofio yn braf ers hanner awr. Pan gafodd ddigon ar y dwfr, daeth i'r lan, a chafodd wers lem gan ei fam, a hanner coron gan ei dad.

Ar ol y diwrnod hwnnw, ofer oedd ceisio cadw Sion o'r môr. Yr oedd yntau wedi clywed galwad yr eigion, ac er holl ofal ei fam, yr oedd wedi rhedeg i'r môr cyn ei fod yn ddeuddeg oed.

Ac yn y môr y bu ar hyd ei oes nes oedd yn hen ŵr trigain a phump oed. Yr adeg honno, aeth drwy ryw anap yn rhy fusgrell i allu dilyn ei alwedigaeth yn hwy.

Wedi'r anghaffael hwnnw, bu raid i Sion Morys roddi'r goreu i'r môr, a chyda gofid mawr y gwnaeth hynny. Yr oedd ganddo ddigon o arian i fyw yn gysurus o ran hynny, ond nid oedd gysur i Sion mewn byw ar y tir. Yr oedd o erbyn hyn hefyd yn dra amddifad. Yr oedd ei wraig wedi marw ers blynyddoedd, a'i unig fab