Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad oedd bosibl i neb arall, yn enwedig Sais, fyth ddysgu arfer y geiriau diystyr hynny. Nid oedd yno neb yn yr ardal, meddai, a allai siarad yn ddeallus ag o, am nad oeddynt yn medru ond rhyw ychydig Saesneg, digon i son am y tywydd a rhywbeth felly.

Daeth ar ddamwain i gyfarfod âg un neu ddau o Gymry yn medru Saesneg yn weddol rigl, megis y doctor a'r offeiriad, ond yr oedd yn well hyd yn oed gan y ddau hynny siarad Cymraeg, ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn profi fod y pechod gwreiddiol yn gryf ynddynt hwythau hefyd, er gwaethaf y Saesneg a'r cwbl.

Ni buasai yntau yn gwneud rhyw lawer â'r ddau hynny mwy nag â'r bobl gyffredin oni bae fod yn rhaid iddo fynd at y doctor weithiau, a bod yn rhyw fath o raid arno yn ol ei syniadau crefyddol ymddwyn o leiaf ychydig yn fwy cwrtais tuagat wr eglwysig. Felly ryw dro, pan oedd wedi mynd at y doctor, aeth yn ymddiddan rhyngddynt ynghylch Cymru a Chymraeg.

"Beth ydyw'ch enw chwi hefyd?" meddai wrth y doctor.

"Cadwaladr Gruffydd," ebr y doctor.

"Gwared pawb!" ebr y Sais, "sut yr ydych yn medru byw gyda'r fath enw?"

"O, wel, yn eitha," meddai'r doctor. "Pa beth yw'ch enw chwithau, syr?"

"Cuthbert Cathcart Strongbridge," ebr y Sais.