Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac am ddyddiau lawer, bu'r Sais yn cerdded i dŷ'r doctor i ddysgu dywedyd yr enw newydd ar Lanfair Pwll Gwyngyll. Wedi hir ymdrech, llwyddodd i ddywedyd rhywbeth heb fod yn hollol anhebyg iddo, ac yna aeth am dro adref i Loegr rhag ei flaen i "dorri'r record." Pan ddaeth yn ei ol, aeth i dŷ'r doctor i ddyweyd yr hanes, a'i hysbysu fod pobl yn Lloegr wedi synnu ato a'i fawr fedrusrwydd. Yr oedd yntau mewn gwirionedd wedi dotio ato ei hun, ac yn dywedyd yr enw yn ei ffordd ei hun bob cyfle a gai. Aeth y son am dano ar led, ac o'r diwedd, gwelodd rhyw Gymro o argraffydd tipyn craffach na'i gilydd fod yn bosibl gwneud arian o'r peth. Argraffodd yr enw ar lain hir o bapur gan ei alw yn gamp i Sais a'i werthu am geiniog, a chyn pen ychydig flynyddoedd gwnaeth ffortun ohono.

Yr oedd y Sais Mawr o hyd yn hawlio yn gryf mai efô oedd y cyntaf i dorri'r record, ac yn dal ati i lefaru'r gair lawer gwaith bob dydd rhag ofn ei anghofio neu golli ei fedr i'w lefaru. Prin yr oedd ganddo unrhyw amcan mewn bywyd ond hynny, a'i un ysmaldod ym mhob cwmpeini lle bynnag y byddai oedd yr enw aruthr hwnnw. Byddai Saeson yn chwerthin am ei ben. A'r Cymry hefyd. Ond nid am yr un rheswm.

Un diwrnod, galwyd yn sydyn ar y meddyg i dŷ y Sais Mawr. Yr oedd yr hen greadur wedi cael ergyd o'r parlys, ac yr oedd y diwedd yn bur agos ato. Bu-