beth arall, os gwelwch chi yn dda," a'r wên fwyaf drychiolaethus ar ei wyneb llwyd.
Ond o'r diwedd, fel popeth arall yn y byd hwn, fe ddarfu chwedl y Geg Fawr, ac o dipyn i beth, cliriodd y siop. Bellach, daeth y cyfle. Yr oedd Y Bardd i weled ei waith mewn print, ac yr oeddym ninnau i gyd i gael clywed yr englyn i'r Ysgol Sul.
Tyrasom i ben draw'r siop at Y Bardd. Yr oeddym oll yn dal ein gwynt bron. Yr oedd wyneb Y Bardd yn welw a'i wefusau a'i ddwylaw yn crynu. Estynnais y papur iddo, ond yr oedd ei deimladau yn rhy gynhyrfus iddo fedru ei agor ei hun. O leiaf, yr oedd ei ddwylaw yn rhy grynedig.
"Darllen di o, Wil," meddai wrthyf fi, gan estyn y papur i mi yn ol.
Cymerais innau'r papur ac agorais ef, a throais at y tu dalen lle'r oedd y farddoniaeth.
Yr oedd pawb yn dal eu gwynt.
Rhedais fy llygaid i lawr hyd y golofn. Nid oedd yno ddim barddoniaeth i'r Ysgol Sul.
" 'Does yma ddim englyn i'r. Ysgol Sul," meddwn, gan edrych ar Y Bardd.
Gwelwodd ei wyneb dipyn mwy nag o'r blaen.
"O, hwyrach eu bod nhw wedi ei gadw fo tan yr wythnos nesa," ebr Y Bardd. "Edrych yn nhop y golofn, ydi'r golygydd ddim yn deyd rhywbeth am yr englyn?"