Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nhafarn y Cwch Gwenyn. Ond am Dafydd Tomos, ni chlywyd erioed mono ef yn rhegi ei ormeswyr, nac yn dywedyd gair am danynt hyd yn oed pan fyddai ar ddamwain wedi yfed yn o helaeth. Gweithiai Dafydd yn galed o naill ben y flwyddyn i'r llall; byddai wrthi yn hwyr ac yn fore; bywiai yn gynnil iawn, a chrafangai bob ceiniog ynghyd o bob man y gallai; prin y cai ei chwaer ddigon o fwyd a dillad ganddo. Ac eto, nid cybydd oedd Dafydd ychwaith. Hel y rhent ynghyd yr ydoedd. Os byddai ganddo swllt neu ddau yn weddill ar ol talu'r rhent, ni byddai ganddo wrthwynebiad i'w wario ei hun ar dipyn o gwrw neu i'w roi i'w chwaer at gael deunydd ffedogau neu rywbeth felly. Ac anaml iawn y byddai gan Dafydd geiniog dros ben y rhent.

Tŷ a beudai to gwellt oedd ar fferm Dafydd, a'r rhai hynny heb eu taclu na'u trwsio ers blynyddoedd lawer. Yr oedd y gwellt ar do'r tŷ wedi braenu nes oedd yn wir yn debycach i domen dail nag i do gwellt. Ni ofynnodd Dafydd erioed am do newydd ar ei dŷ, a buasai'n lled sicr o gael ei droi o'i ffarm pe buasai yn gofyn. Dyma a ddigwyddodd i fwy nag un o'i gymdogion pan feiddiasant gwyno fod eu tai yn anghymwys i neb fyw ynddynt—trowyd hwy ymaith a chwanegwyd y tir at ffermydd ereill, pa un bynnag a oedd ar y ffermwyr hynny eu heisiau ai peidio.