dyfod, a'r addoliad wedi dechreu. Bum mewn llawer ŵylnos, gwelais blant yn wylo ar ol rhieni, ond ni theimlais o'r blaen beth oedd wylnos mam. Ond yr oedd yr hen wynebau, yr hen acenion, yr hen donau yn cael effaith ryfedd arnaf. Teimlwn y gallaswn ganu gyda hwy, er fod fy llais ar bob adeg arall yn dra aflafar. Ond ymddangosai y cwbl i mi yn sylwedd. Pan gyfeirid at yr Iorddonen, yr oedd fy mam wedi ei chroesi. Os sonnid am yr Archoffeiriad mawr, yr oedd wedi ei chyfarfod. Os dywedid am wynfyd, yr oedd hi wedi ei gyrraedd. Yr oedd cystudd a galar wedi ffoi ymaith, a llawenydd tragwyddol wedi ei oddiweddyd. Hoff i mi oedd gwrando drachefn ar fy hen athraw, yr hwn er ys mwy na naw mlynedd ar hugain cyn hynny, a offrymasai drosof, ar ddydd fy ngenedigaeth, y weddi gyhoeddus gyntaf, pan y disgwyliai pawb o'm hamgylch i mi farw. Gyda diwedd y gwasanaeth, cyrhaeddodd fy mrawd o'i daith hirbell yntau. Blwyddyn a chwe' mis, cyn y noswaith honno, ymadawem â'n gilydd ar lan Menai, heb dybied mai yn wylnos ein mam y cyfarfyddem nesaf. Ond dyna gyfnewidiadau amser.
A daeth drannoeth, dydd angladd fy mam. Ymgasglai y cymydogion: elai hwn a'r llall "i edrych y corff;" cymerid yr olygfa olaf; cauid yr arch; darllennid a gweddiai William Richard, (un o weddiwyr goreu yr oes,)[1] gyda'i holl ddwysder arferol, a chychwynem i addoldy Rhyd y Main, lle yr addolasai fy mam am lawer blwyddyn. Yno, pregethai cyfaill hoff i fy mam, Mr. Roberts o Lanuwchllyn;
- ↑ Dichon i grybwylliad fel hyn daro yn chwithig ar rai clustiau, er yr hyderaf na thynnaf ddwfr o un llygad. Yr ydwyf wedi gweled rhyw gymaint o Loegr a Chymru yn y deuddeg mlynedd diweddaf o'm heinioes. Clywais lawer o weddiau gan weinidogion ac aelodau. Ond am briodoldeb ymadrodd, priodoldeb erfyniadau, syniadau mawreddig am y Duwdod, hyder ffyddlawn yn aberth y Gwaredwr, ac amgyffred cynwysfawr am ddylanwadau Ysbryd Duw, ni chlywais eto amgenach William Richard. Pa bryd bynnag yr huna, gellir ysgrifennu ar ei fedd,—
"Yn y graian yma gorwedd un allasai fod yn llawn—
O wir rywiog fflamau'r awen, a phrydyddol ddenol ddawn;
Dwylaw all'sent lywio teyrnas, a theyrnwialen wych ei gwawr,
Ond iselder rewodd ffrydiau swydd—gyneddfau'r enaid mawr."