Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ar lan y bedd areithiai Mr. Jones. Araf ollyngem y gweddillion marwol i'r gwaelod, eneiniem hwynt â'n dagrau, a chodem ein llygaid tua chymylau y nef, o'r hwn le y disgwyliwn yr Arglwydd a'r Iachawdwr, Iesu Grist, i'w galw ato ei hun yn nydd yr ymweliad. Creulawn ac aniwalladwy yw y bedd! O fewn dwy flynedd a thri mis, gorfododd fi i hebrwng i'w fynwes blentyn, priod, a mam; ond rhyddheir ei holl garcharorion yn nydd dadgload tiriogaeth angeu. "Os ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi, felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef." Yn yr hyder hwn y gadawem lan y breswylfa lonydd, ac y dychwelem i'r Ty Croes, yr hwn le nid oedd mwyach i adwaen fy mam. Yr oedd ei lle yn wâg a'i llais yn ddistaw. Gwawriasai bore anfarwoldeb ar ei henaid, a gorffwys ei chnawd mewn gobaith am adgyfodiad gwell. Y mae weithian wedi gorffwys blwyddyn ym mro llygredigaeth, a dichon yr erys yno eto fyrddiynau o flynyddoedd; ond gofala yr Hwn sydd yn gwylio ei llwch am "i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb."

Wedi hir fwynhad ei hoes—a gweled
Mai gwaeledd yw einioes;
Hi, drwy ffydd, o'n daear ffoes,
Ar alwad Rhoddwr eiloes.


Huna yn dy ddistaw wely, blinaist ar helbulon oed,
Uwch dy ben y cân yr adar gerdd dy gwsg, o frigau'r coed,
Llithra ffrydiau Iddon heibio, er dy sio yn dy hûn;
Pery honno'n dawel ddedwydd, hyd foreuddydd Mab y dyn.

Mwy ni swyna llais dy glustiau, nes cyhoedda udgorn Nen
Alwad hyfryd i ail fywyd, gwynfyd na ddaw byth i ben;
Trwy fy nagrau gwelaf forau pan gyfodi heb un clwy';
Henflych forau yr ymweliad—ni bydd blin ysgariad mwy!