Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tawel Cyndelyn yn dweud llawer heb siarad dim. Dywaid y Trioedd mai:— Tair sail awen: Rhodd Duw, ymgais dyn, a damwain bywyd." Prif waith y bardd yw Caru Gwirionedd, Teimlo Gwirionedd, a Mynegi Gwirionedd." Dyna fu gwaith bywyd Cyndelyn; ei rinweddau oeddynt gyfaredd ei fywyd, ei gân, a'i bregeth. Dywed Ben Johnson y gwneir bardd yn ogystal a'i eni. Pawb sydd yn cofio ein gwrthrych, gwyddant fod ôl y gwneud a'r geni yn amlwg iawn arno ef.

EI UCHELGAIS

Nid oedd ynddo fawr o uchelgais. Yr ydym ar dir diogel, fel y credwn, pan ddwedwn nad oedd ynddo ddigon o'r math gorau o uchelgais. Amaethodd diweddar annwyl frawd holl argymhellion naturiol a chyfreithlon ei fywyd yn well na'r peth yma. Credwn na enir neb i'r byd heb fod ynddo ddigon o reddfau a nwydau i ateb gofynion dwyfol ei fodolaeth. Gall pob dyn amaethu ei nwydau i wasanaethu y drwg neu y da. Dylai pob un fedru llywodraethu holl nerthoedd ei natur trwy gael nerth gan ei Dduw i wneud hynny. Credwn mai cariad at y pur a'r dyrchafol ydyw mamaeth uchelgais gwir. Yn ol ein hadnabyddiaeth o Cyndelyn credwn fod y cariad hwnnw yn gryf iawn ynddo; eto rhaid fod ei ysbryd gostyngedig a hunanymwadol yn gryfach, a'r tebygolrwydd yw mai hwnnw a rwystrodd dyfiant ei uchelgais gyfreithlon. Yr oedd yn weithiwr diwyd a gonest ym mhob cylch, ac ni welwyd ef erioed yn cardota anrhydeddau o unrhyw fath, naddo, yn ddiau. Cafodd anrhydeddau, ond nid yr oll a haeddodd. Caiff llawer ormod o anrhydeddau, a llawer lai na'u haeddiant. Cymerodd ef a gafodd, a bodlonodd ar hynny, a diau fod hynny yn llawer gwell iddo na phe buasai uchelgais wedi mygu rhinweddau ei fywyd. Awyddai ef am fod yn fwy o ddefnydd yn y byd i'w gyd-ddynion pac am yr hyn a dderbyniai gan ddynion am ei lafur.

Lladron anrhydedd yw Balchder a Hunan, os cânt lywodraethu bywyd unrhyw un, ond nid oedd iddynt le na llywodraeth ym mywyd Cyndelyn. Talodd ef yn onest am bob anrhydedd a gafodd, ie, yn sicr, lawer mwy na gwerth y cyfryw hefyd.