Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall i'r graddau yr oedd yn caru y pur a'r rhinweddol. Yr ydoedd yn casau, pob gwedd ar bechod a llygredigaeth. Y mae cariad at y da yn gyfwerth â'i gasineb at y drwg. Goleuai ei ysbryd addfwyn a hynaws bob nos iddo yn sicr.

Gall pob dyn a dynes o'r ysbryd yma wynebu a cherdded trwy bob math o dywydd, digofaint a theimladau drwg byd annuwiol heb dderbyn unrhyw niwed.

Dywedodd rhywun nad oedd iddo elyn yn y byd. Pe gwybaswn fod hynny yn wir, ni fuaswn yn ysgrifennu ei Gofiant. Na, nid oedd Cyndelyn heb ei elynion, mwy na ffyddloniaid eraill yr Arglwydd Iesu Grist, ond methasant wneud dim drwg iddo fel y dymunent. Diau fod ei fywyd tawel a dedwydd yn poeni llawer ar rhyw fath o bobl, a'i safle bwysig gyda chwmni y Ffordd Haearn yn poeni llawer ar eraill. Ond aeth ef yn ei flaen a'i waith gan dosturio wrthynt, a maddeu iddynt; megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist iddo yntau. Ni soniai byth am ei elynion wrth neb ond ei Waredwr. Nid oes dim anymunol mewn bywyd, gan nad o ba gyfeiriad y daw, na fedr y Cristion dynnu cysuron fyrdd o'r cyfryw. Diau fod ein brawd annwyl yn ei oes wedi bwrw allan lawer o ysbrydion drwg; y mae tynerwch ac ysbryd maddeugar bob amser yn gallu gwneud hynny. Yr ydoedd yn ddigon cryf i beidio a son am ei elynion, yr hyn a brofai ei fod yn gallu maddeu ac anghofio pob math o bethau a phersonau a gyfodent i'w erbyn. Dyma lle y gwelir nerth y Cristion, ac y gellir ei fesur. Yn ei allu i fod yn ddistaw pan gamfernir ef ac y dywedir anwiredd arno. Gwelaf fy Ngwaredwr yn gryf yn y fan yma, pan fedrodd dewi yn y Llys. Yn sicr, nid oes mewn bywyd hunanymwadol flodeuyn mwy persawr na phrydferthach nag ysbryd maddeugar.

FFYDDLONDEB EIN BRAWD

Golyga y gair Ffyddlon llawn o ffydd fel Steffan, un cywir, credadwy, un yn cadw ei air, un y gellir ymddired ynddo, un ar ei orau. Y mae ffyddlondeb yn un o reidiau bywyd llwyddiannus ymhob cylch.