Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Cyndelyn yn ffyddlon yn yr ystyr a roddir i'r gair yn yr Hebreaid III., 5, a Dat. XVII., 14. Ni ellid ei rwystro i gyflawni ei ddyletswydd ond gan amgylchiadau na allai eu llywodraethu. Bu'n ffyddlon hyd. angau, trwy lawer o wendid corfforol. Bu'n ffyddlon i'w deulu, i'w gyflogwyr, ac i'w broffes o'i ffydd yn Iesu Grist fel ei Waredwr. "Ymdrechodd hardd deg ymdrech y ffydd, a gorffenodd ei yrfa mewn llawenydd, Chwefror 10fed, 1908, ac efe yn 71ain mlwydd oed. Claddwyd ef yng Nghladdfa Salem, Fforddlas, y dydd Iau canlynol i'w farw Daeth torf fawr i'w arwyl o bell ac agos. Boed heddwch i'w gorff i orffwys hyd nes y caiff eto glywed lleferydd Mab Duw, a chodi ar ei ddelw, wedi ei wisgo mewn anfarwoldeb ac yn ddigon cryf i ddal tragwyddol bwys gogoniant ei Waredwr.

Yn Brynhyfryd yr oedd ei drigfa pan yr hunodd. Gwnaeth ddiwrnod da o waith, a rhaid i ni gredu mai mawr ydyw ei wobr yn y Nefoedd. Y nawdd Dwyfol a gysgoda weddill y teulu sydd yn aros, hwythau yn disgyn ir bedd o un i un. Diolchwn i Dduw pob Gras am fywyd a gwaith y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn), Fforddias Glan Conwy y.