Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynnag, ni fu raid aros yn hir i weled ei fod yn fachgen darllengar, myfyrgar, a meddylgar. Ond oes anfanteisiol dlawd oedd yr oes honno iddo ef a'i gyffelyb. Llyfrau yn brinion, a'r ysgolion mor brinion a hwythau. Ond i bawb gafodd y fraint o'i adnabod a'i glywed yn darllen a gweddio a phregethu a sylwi ar ei fywyd sanctaidd, hawdd oedd gweled mai y Beibl oedd ei lyfr. nodais fod ei fynych wendid yn peri pryder mawr i'w rieni, a rhoddid coel rhyfedd y pryd hwnnw na fyddai ond oes fer i blant henaidd a chall fel ag oedd Tomos Efans yn ei faboed. Yr oedd ffrind i'w fam o'r enw Grace Williams, ac iddi hi y dywedai Margaret Efans ei phrofiad a'i phryder. Cwynai wrthi mai y darllen a'r myfyrio oedd yr achos o fynych wendid y bachgen. Ond siaradodd Grace Williams hi i beidio a dweud gair wrtho fo. Bydd yn y nefoedd yn fuan iawn i chwi," meddai. Ond gofalodd ei annwyl Geidwad am ddigon o nerth iddo i'w wasanaethu am 71ain mlynedd. Oherwydd prinder amser dwedaf un hanesyn eto, yr hwn a ddeil berthynas ag ef ac a brawd nad oedd yn ddigon gwyliadwrus gyda'i bechod parod. Syrthiai yn fynych i'r un pwll, ond fel yr afradlon, gwell oedd ganddo ddod yn ol na marw yng ngwlad y moch a'r cibau. A'r tro yma, wedi dod yn ol, ni fynai i neb ei dderbyn yn ol ond Tomos Efans, er bod amryw i'w cael. Ac erbyn y Sul i'w dderbyn, er ei siom ni dderbyniai Tomos Efans mo honno, ac ni fynai y pechadur ei wrthod. Wedi'r cyfarfod aeth T. E. i'w ddanfon beth o'r ffordd gartref, ac adroddodd iddo hanes diweddar Barch, A. J. Parry, D.D. gyda chymeriad tebyg, yr hyn a fu yn ddigon i gael y ddau i gyd-weled, ac ar y cyfle cyntaf wedi hyn derbyniwyd y syrthiedig yn ol, a bu yn aelod a brawd ffyddlon hyd y diwedd. Nis gwn a fydd hyn yn dderbyniol genych. Yr ydwyf mewn brys yn terfynnu gyda'r dymuniadau gorau.

R. T. Owens.