Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bryd i'r gwŷr hyn sylweddoli y ffaith mai Ymneillduwyr, gan mwyaf, oedd y Cymry, ac mai gwell oedd iddynt beidio ymyryd â'u crefydd. Gesyd yn llym ar y stiwardiaid, y rhai sydd yn gyfrwng rhwng y meistriaid tir a'r amaethwyr, ac yn gwneud mawr ddrwg, a therfynna trwy ddweud “gair wrth ei gydwladwyr." Dywed wrthynt fod yn rhaid iddynt ymwregysu ar gyfer y frwydr. Dylent fod yn barod i ddioddef, hwy a'u plant, ond odid, am eu hegwyddorion; ac ond iddynt fod yn ffyddlon yr oedd y fuddugoliaeth yn sicr iddynt. Ychwanegodd Mr. Richard yr ol-ysgrif ganlynol i'r llythyrau, dyddiedig 1883, pan ail gyhoedd- wyd hwynt yn llyfr yn 1884,-

"Fe welir, yn un o frawddegau olaf y llythyr diweddaf, fy mod wedi gwneud apêl ddifrifol at fy nghydwladwyr i hawlio eu hiawnderau politicaidd, hyd yn oed, fel yr oedd yn bosibl ac yn debygol, pe byddai raid iddynt ddioddef am eu ffyddlondeb. Atebasant yr apeliad hwnnw yn ardderchog yn etholiad 1868. Ac ni pheidiodd y blinderau a ragfynegwyd eu goddiweddyd. Trowyd ugeiniau o honynt o'u ffermydd a'u tai, a blinwyd a chospwyd hwynt am feiddio pleidleisio yn ol eu cydwybodau. Cefais y boddhad, pa fodd bynnag, o lusgo eu herlidwyr o flaen Tŷ y Cyffredin a'r wlad, a chydag ereill, o gasglu cronfa helaeth i liniaru eu gofidiau. Darfu i etholiad 1880 gwblhau y fuddugoliaeth a ddechreuwyd yn 1868, ac nid oes ond ychydig