Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydych am ryfel, ewch eich hunain. Nid oes gennym ni gweryl yn erbyn na Ffrancwr na Rwsiad—brodyr o'r un gwaed ydym, wedi ein prynnu gan yr un Ceidwad, ac nid ydym am drochi ein dwylaw yng ngwaed ein gilydd."

Ie, gwyn fyd hefyd; a phe byddai syniadau pob aelod Seneddol mor iachus ag eiddo Mr. Richard ar y cwestiwn hwn, nid hir fyddai yr amser cyn i'r dydd dedwydd hwnnw wawrio.

(1878) Ar y 9fed o Ebrill, 1878, traddododd Mr. Richard araeth yn y Senedd yn erbyn galw allan yr Ad-fyddin (Reserves). Gwawdiodd y ffitiau o ddychryn oedd yn dod dros y wlad ar dymhorau, rhag yr ymosodiad arnom gan ryw genedl neu gilyıld; ie, clywodd pobl yr Unol Daleithiau yn cael eu desgrifio fel ysgum y ddaear, a'n gelynion pennaf. Ac yn awr, Rwsia oedd ar ddisgyn arnom! A phaham? Am ei bod wedi darostwng y gwrthryfel yn Poland. Nid oedd un amheuaeth nad oedd Rwsia wedi ymddwyn yn greulon. Yr oeddem ni yn y wlad hon yn bobl rhyfedd yn wir. Codem ein dwylaw mewn arswyd oherwydd creulonderau gwlad arall, ac eto, nid oeddem yn meddwl dim am ein hymddygiad ein hunain yn yr Iwerddon, yn Ceylon, yn India a Jamaica. Yr oedd ei gyfaill, yr aelod dros Newcastle, wedi ei gyfarfod y dydd o'r blaen, a dywedai,