Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyrhaeddasant y ddinas ym mis Gorffennaf, 1878. Yr oedd y Ddeiseb yn cynnwys y penderfyniadau yr oedd Seneddau Prydain, Itali, yr Unol Daleithiau, Holland, Belgium, Sweden, a Ffrainc, eisioes wedi eu pasio o blaid Cyflafareddiad. Yr oedd gan y cenhadon hyn lythyr hefyd at Bismark, yn gofyn iddo gyflwyno y Ddeiseb i'r Gynhadledd. Danfonwyd copi i bob un o'r Llawn-alluogion (Plenipotentiaries), gyda dymuniad at rai o honynt am gael ymddyddan â hwynt. Mae hanes holl ymdrafodaeth y tri wŷr hyn yn dra dyddorol, fel y mae yn nyddlyfr Mr. Richard, ond nis gallwn ond rhoi crynhodeb byr o honi. Ar y 5ed dydd o fis Gorffennaf, cawsant siarad â Count Corti, y cynrychiolydd o Itali. Dywedai y gŵr hwnnw ei fod wedi clywed am enw Mr. Richard lawer gwaith. Yr oedd yn bur foesgar a charedig, a dywedai, gyda golwg ar Gytundeb Paris yn 1856, y parhai mewn grym tra heb ei newid gan Gytundeb Berlin. Dywedai Mr. Richard fod arnynt eisieu newid y gair "wish"[1] i air cryfach. Ofnai yntau nas gallai gael hynny, a dywedai,—"Y mae yn bur ddrwg gennyf; byddai yn dda gennyf fi pe gwnaent i ffwrdd

â'n byddinoedd sefydlog, a phenderfynnu pob

  1. Gweler y penderfyniad hwnnw ar tudalen 113.