Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedai "fod arni ofn nad oedd ganddi fawr o ddylanwad yn y fath faterion." Ond ni fu eu hymweliad yn ofer er hynny, oblegid pasiwyd erthygl i'r perwyl a ganlyn,—"Fod Cytundeb Paris yn 1856, ac un Llundain, 1871, yn cael eu cadarnhau yn yr holl bethau hynny nad yw Cytundeb Berlin yn eu newid neu yn eu diddymu."

Darfu i Gyngor Cymdeithas Heddwch Ffrainc gymeryd mantais oddiwrth Arddanghosfa Fawr Paris yn 1878 i gynual Cynhadledd Heddwch yn niwedd mis Medi. Yr oedd yno gynrychiolwyr o Ffrainc, Germani, Prydain, Itali, Yspaen, Belgium, Holland, Switzerland, yr Unol Daleithiau, a gwledydd ereill. Yr oedd llywydd y Gymdeithas yno, a'r ysgrifennydd, Mr. Richard. Parhaodd y Gynhadledd am bum diwrnod. Siaradwyd yno gan lawer o wyr enwocaf Ewrob—ac, wrth gwrs, Mr. Richard yn eu mysg. Yr oedd yn hyfryd gweled dynion o bob cenedl a chredo yn gweithio yn gytun gyda'r un amcan mawr o bleidio yr egwyddor fod plant dynion yn frodyr i'r un Tad, ac yn gwneud eu goreu i roddi terfyn ar un o felldithion pennaf dynolryw. Un o'r pethau y penderfynwyd arno oedd tynnu allan reolau i geisio uno Cymdeithasau Heddwch y byd yn un frawdoliaeth fawr, a phenodwyd pwyllgor i