Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gario hynny allan. Teimlwyd anhawsterau, pa fodd bynnag, i gario y peth i ymarferiad ar y pryd, ond dywed Adroddiad Cymdeithas Heddwch nad oedd dim amheuaeth nad ellid, cyn hir, gario y cynllun allan.

Fel y mae hanes Prydain, yn ystod y rhan fwyaf o'r ganrif ddiweddaf, wedi bod yn hanes o derfynnu un rhyfel a dechreu un arall mewn rhyw barth neu gilydd o'r byd, felly yr oedd llafur Mr. Richard yn gynwysedig mewn dangos mor ddianghenraid—ie, mor ddrygionus—oedd y rhyfeloedd hyn. Nid oedd un Aelod Seneddol, yr ydym yn lled sicr, yn ei wneud yn bwynt i astudio dechreuad y rhyfeloedd hyn gyda'r un manylder a dyfalwch ag y byddai ef Ym mis Medi, 1878, ofnai y byddai yr helynt rhwng Prydain ac Afghanistan yn terfynnu mewn rhyfel. Tynnodd allan apêl at gyfeillion Heddwch ym mhob man i wneud a allent i rwystro hynny. Cynhaliwyd cyfarfodydd mawrion ym mhrif drefi y deyrnas, ac areithiai Mr. Richard ynddynt. Yn yr areithiau hyn nid ymfoddlonnai ar ymosod yn ddiarbed ar ryfel, ond rhoddai hanes manwl o'r helynt, fel y datlennid ef yn y "Llyfrau Gleision," fel y caffai ei wrandawyr wybod y ffeithiau yn gywir. Heblaw hynny, fe ysgrifennodd gyfres o lythyrau doniol a chlir ar y cwestiwn i'r Christian