Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a fu, lawer iawn mwy i'w ddweud ar gwestiynau o ryfel nag oedd ganddi yn awr.[1] Collodd cynhygiad Mr. Richard, pa fodd bynnag, trwy fwyafrif o wyth, sef 64 yn erbyn 72. Yn y flwyddyn hon, cododd helynt yn y Transvaal Nid ydym am ddadleu yr helynt hwnnw yn y fan hon. Gwyddis yn dda fod llawer yn ceisio haeru na ddylasai Mr. Gladstone adferu anibyniaeth y Transvaal ar ol i ni unwaith gymeryd meddiant o honi; ie, er ein bod wedi gwneud hynny ar y dybiaeth fod y Boeriaid yn dymuno bod dan iau Prydain, ac ein bod wedi cael allan wedi hynny fod hynny yn gyfeiliornad dybryd. Ond nid dyna oedd barn Mr. Richard, nid dyna oedd barn Mr. Gladstone, na barn Mr. Chamberlain—nac ychwaith farn mwyafrif Tŷ y Cyffredin ar y pryd y dadleuwyd y cwestiwn. Mae Mr. Richard, mewn erthygl glir a galluog yn yr Herald of Peace, yn

trin y cwestiwn, a dywed, pe buasai y Tŷ

  1. Dadl Mr. Gladstone oedd fod y rhan fwyaf o'r engreifftiau a nodwyd gan Mr. Richard wedi eu derbyu yn ffafriol gan y wlad wedi hynny; ond, fel y dywedai Mr. Richard ar ol hynny, un peth ydyw cyfiawnhau gweithred y bwriedir ei chyflawni, a pheth arall ydyw peidio ei chondemnio ar ol iddi gael ei chyflawni.