Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyfodol. Ymawyddai i wasanaethu ei ddydd a'i genhedlaeth, gan deimlo fod y nos yn dynesu, "pan na ddichon neb weithio." Yr oedd ei orffwys ef, ebe un cyfaill, yn gymaint a llafurwaith dynion cyffredin. Byddai yn syndod i lawer pe gallem groniclo yr holl waith yr oedd yn gallu ei gyflawni tua'r adeg yma ar ei fywyd. Teimlai yn ddwys wrth weled y naill gyfaill ar ol y llall fu yn ymladd ochr yn ochr âg ef mewn brwydrau celyd o blaid rhyddid crefyddol a heddwch yn syrthio ymaith. Ymysg y cyfryw yr oedd Elihu Burritt, yr hwn fu yn cydlafurio âg ef yn y Cynhadleddau Heddwch ar y Cyfandir gynifer o weithiau. Un arall oedd ei hen gyfaill mynwesol, Edward Miall, yr hwn a safai wrth ei ochr yn ymladd o blaid egwyddorion Ymneillduaeth yn, ac allan o'r Senedd. Traddododd Mr. Richard anerchiad llawn o deimlad dwys, mewn iaith brydferth, ar ei angladd. Un arall oedd Syr Hugh Owen, enw yr hwn sydd yn perarogli mor esmwyth ymysg cymwynaswyr Cymru; ac un arall oedd gweinidog yr eglwys yr oedd Mr. Richard yn aelod o honi, sef Dr. Raleigh o Kensington.

(1882) Yn 1882, ymddanghosodd erthygl yn y Church Quarterly Review gan Dr. Ollivant, Esgob Llandaff. Math o ymosodiad oedd erthygl yr esgob ar Mr. Richard yn bersonol am yr hyn