Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddatgysylltiad nag ymosodiadau tebyg i'r un yn y Church Quarterly Review.

Gwelwn oddiwrth yr erthygl rymus hon y fath fantais fawr ydoedd i Gymru fod gŵr o wybodaeth ac anibyniaeth Mr. Richard ar y Pwyllgor Addysg ac nad oedd efe byth yn esgeuluso un cyfleustra a gaffai i amddiffyn cymeriad ei wlad yng ngwyneb ymosodiadau, o ba gyfeiriad bynnag y deuent.

(1882) Ar y 17eg o Fawrth, 1882, traddododd Mr. Richard araeth yn Nhŷ y Cyffredin ar achos Borneo, ynys oedd tua 284,000 o filltiroedd ysgwar, yn Ynysfor India. Ymddengys fod y Sultan Brunei, Sultan Soloo, ac un Tumougong, wedi gwerthu eu taleithiau i un o'r enw Mr. Dent, ar ran Cwmni Masnachol, yn cynnwys yr oll o Ogleddbarth Borneo, talaeth fwy na'r Deyrnas Gyfunol, gan fod y Cwmni wedi ymrwymo talu y swm blynyddol o tua phum mil o bunnau am danynt. Cadarnhaodd Llywodraeth Prydain y Cytundeb. Yr oedd telerau y Cytundeb yn cyfreithloni cymeryd buddiannau a thiroedd ychwanegol trwy unrhyw foddion cyfreithlon. Yr oedd Mr Richard, a rhan fawr o'r wlad ag oedd wedi deall y cwestiwn, yn condemnio y Cytundeb hwn. Gwadai Mr. Richard hawl y llywiawdwyr hyn i werthu eu teyrnasoedd a'u poblogaeth fel hyn, fel pe