Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwerthid darn o dir, a datganai ei syndod fod y Llywodraeth yn cymeradwyo y peth heb ganiatad y Senedd. Galwai Mr. Richard sylw yn yr Herald of Peace at y ffaith fod Llywodraeth Prydain eisoes wedi danfon 150 o dunelli o offer rhyfel i'r Cwmpeini.

Yn ei araeth yn y Tŷ ar yr achos, dywedai ei fod yn ymddangos y gallai rhyw is-swyddog, neu y neb a fynnai, gymeryd meddiant o diriogaethau, a gosod y draul o'u cynnal ar gefn pobl Prydain. Honnid, mae'n wir, nad oedd Prydain yn rhwym o amddiffyn y Cwmpeini hwn, ond fel y byddai yn amddiffyn Prydeinwyr yn gyffredin. Y drwg, er hynny, oedd fod yr "ond" hwn yn cynnwys bron bopeth. Yr oedd y "Llyfrau Gleision" ar y mater ymhell o fod yn rhai hyfryd i'w darllen. Yr oedd Holland, ac Yspaen, a Lloegr yn ymgrabinio am gael meddiant o wlad nad oedd yn perthyn iddynt. Os na syrthiai y rhai hyn allan â'u gilydd, byddent yn siwr o syrthio allan â'r trigolion. Felly y bydd y Saeson bob amser yn gwneud. Fel rhai yn ennill trefedigaethau trwy orthrech nid oedd neb tebyg iddynt, ond fel llywodraethwyr da yr oeddent yn aflwyddiannus. Yn wir, yr oedd arwyddion o anghydfod posibl yn ymddangos eisoes. Wrth ysgrifennu o Labuan, Ionawr, 1878, dywedodd y Consul Cyffredinol, Treacher,