Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Napier unwaith, y "gyfraith a'r proffwydi, crefydd a moesoldeb," i'r milwr ydoedd y Llyfr Rheolau. Ond yr oedd yn bryd gofyn paham y telir y fath anrhydedd i'r dosbarth hwn o ddynion. Ai am ragoroldeb eu gwaith—y gwaith o ladd a dinistrio? Ai dyma'r gwaith oedd i gael ei gydnabod mewn modd mor arbennig gan wlad Gristionogol? Ai yn unig am eu bod wedi gwneud eu dyledswydd? Ai am fod eu gwaith yn un peryglus? Beth am y miloedd mwnwyr oedd yn peryglu eu bywyd bob dydd er ein mwyn? Nid oedd y dynion dewr hyn byth yn cael tlysau. Ai am fod y milwyr yn ychwanegu at ogoniant y wlad? Yn ol ei farn ef, yr oedd gwaith llawer o honynt yn ystod y deng mlynedd ar hugain blaenorol, yn lle bod yn ogoniant, wedi dwyn gwaradwydd arnom. Aeth Mr. Richard ymlaen i enwi rhes o engreifftiau, ac yn eu mysg, tan-beleniad Alexandria. Na; nid oedd efe yn chwennych y fath ogoniant i'w wlad, ac am hynny nid oedd am wobrwyo y rhai a gyflawnent y fath weithredoedd. Trueni mwyaf Ewrob oedd yr ysbryd milwrol. Yr oedd ynddi ddeuddeg miliwn o ddynion yn dwyn arfau. Creadur oedd dyn, yng ngolwg ein swyddogion milwrol, i gael ei ddysgu i ladd ei gyd-ddyn. Yr oedd yn llawn bryd i ddos barthiadau ereill godi i wrthdystio yn erbyn