Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad oedd wedi myned allan ar gais, nac yn wir, gyda chymeradwyaeth Prydain. Dywedai mewn erthygl a ysgrifennodd yn Ionawr, 1884, y gwyddai pob un meddylgar o'r dechreu fod y Soudan mewn gwrthryfel yn erbyn yr Aifft, ac y byddai ein hymyriad yn dwyn arnom drybini. Yr wyf yn dychryn," meddai, "wrth feddwl am y pethau ofnadwy a all fod yn ein haros mewn cysylltiad âg achos Soudan. Da y dywedodd y gŵr doeth, Pen y gynen sydd megis ped agorid argae.' Yr ydym wedi agor llif.ddor yn yr Aifft, a phwy a all atal y llifeiriant?"

Cymerodd Mr. Richard ran yn y ddadl yn y Senedd hefyd yn erbyn yr ymgyrch hwn yn y Soudan, ac areithiodd yn Darlington, Lerpwl, a mannau ereill ar y pwnc. Mae ein darllenwyr, yn ddiau, yn gwybod y modd y terfynodd yr helynt. Cymerwyd Khartoum gan y Mahdi, a chollodd Gordon ei fywyd. Credwn y buasai yn dda iawn gan Mr. Gladstone pe gallasai dynnu yn ol allan o'r helynt yr oedd yr ymyraeth yn yr Aifft wedi ei arwain iddo. Ni ddanfonodd ryfelgyrch i geisio gwaredu Gordon, hyd nes y cododd y wlad ei llais yn rhy uchel i allu peidio rhoddi gwrandawiad. Danfonwyd rhyfelgyrch allan, o'r diwedd, ond yn rhy hwyr i waredu Gordon, a thynodd hyn lawer o anfri ar Weinyddiaeth Mr. Gladstone ar y pryd.