Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/282

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei basio gan yr holl Ddirprwywyr yn brawf o'r cyfnewidiad ym marn y Saeson gyda golwg ar Gymru; a gwnaeth Mr. Richard fwy na neb y gwyddom am dano i ddwyn y cyfnewidiad hwn oddiamgylch. Gwnaeth wyth o'r aelodau ail Adroddiad yn nodi pethau yr oeddent yn methu cydsynio ynddynt yn Adroddiad y mwyafrif; ac yr oedd Mr. Richard yn un o'r wyth hynny. Yr oedd hefyd yn un o bump i dynnu allan drydydd Adroddiad, un maith a llafurfawr, ac yn myned ymhellach na'r ail, a'r hwn, ymysg pethau ereill, oedd yn dadleu dros Addysg Fydol. Credai Mr. Richard yn gryf nad oedd dim cyfaddasder yn y Llywodraeth i ymyraeth âg Addysg Grefyddol y bobl. Credai yn ysbrydolrwydd teyrnas Crist, ac yng ngallu caredigion crefydd i wneud eu rhan i ddysgu y grefydd honno i'r deiliaid. Yr oedd ei wybodaeth am, a'i gyllymdeimlad a'r gwaith mawr a wnaed yn wirfoddol gan Ymneillduwyr Cymru, yn dwfnhau y teimlad hwn yn ei ysbryd.

Tra yr oedd y Ddirprwyaeth yn gwneud ei gwaith, bu raid i Dr. Dale fyned i Awstralia i gynrychioli yr Anibynwyr Seisnig yn eu Jiwbili yn Hydref, 1887. Gofidiai Mr. Richard oherwydd hyn, ac ysgrifennai ato i ddatgan ei obaith y deuai adref cyn cyflwyniad Adroddiad y Ddirprwyaeth.