Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymdeithas. Darllennodd bapur yn y Gyn- hadledd i ddiwygio a threfnu Cyfraith Ryng- wladwriaethol ar y 26ain o fis Gorffennaf, 1887, papur ag oedd yn dangos ôl llafur ac ymchwil- iad mawr.

Yn y Daily News am yr 17eg o fis Ionawr, 1888, sef tua saith mis cyn ei farwolaeth, ymddengye erthygl gan Mr. Richard ar y cynnydd yr oedd Cymru wedi, ac yn ei wneud. Mae yr erthygl yn dra nodweddiadol o'i hoffter mawr at wlad ei enedigaeth, o'i syniadau arbennig, o'i arddull o ysgrifennu, ac o'r wythien o wawdiaeth oedd yn ei gymeriad; a chan ei bod wedi ei hysgrifennu hefyd yn y flwyddyn olaf o'i fywyd, credwn y bydd y darllennydd yn ddiolchgar i ni am roddi cyfieithiad llawn o honni yn y fan hon. Mae yr erthygl fel y canlyn,—

"Mae Cymru yn dod i'r rhes flaenaf yn gyflym. Ceis-iodd rhai o honom, flynyddau yn ol, alw sylw pobl Lloegr at sefyllfa a hawliau y Dywysogaeth. Darfu rhai dynion eangfryd ac yr oedd Mr. Gladstone yn un —dalu sylw i'r hyn a ddywedasom. Ond ar y cyfan, yr oedd gan John Bull ofalon ereill yn pwyso ar ei feddwl, a gwaith arall lonaid ei ddwylaw. Yr oedd yn gorfod gwylio dros a gwastathau 'cydbwysedd gallu' yn Ewrob; yr oedd raid iddo ddal i fyny Anibyniaeth a chyfanrwydd' Ymherodraeth Twrc, a sefydlu yr hyn a elwir yn scientific frontier yn Afghanistan. Yr oedd raid iddo ddarostwng y Boeriaid yn y Transvaal o dan awdurdod