Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddiddan fel hyn â gwŷr enwog Ffrainc, ond nid oedd yn hawdd cael neb oedd yn meddu y cymwysterau hyn i raddau mwy helaeth na Mr. Richard a'i gyfaill, Mr. Burritt.

Cynhaliwyd Cynhadledd Paris yn Awst, 1849, Victor Hugo yn llywydd. Yr oedd yna ŵyr enwog yn cynrychioli Prydain, America, Ffrainc, Germani, Itali, a mannau ereill. Tynnai Mr. Cobden sylw neilltuol. Siaradai yn Ffrancaeg. Yr oedd yr areithiau a draddododd yn wir ardderchog. Yr ydym yn teimlo wrth eu darllen yn awr fod yn resyn na ddarllenid hwynt eto yn y dyddiau hyn gan gyfangorff ein pobl. Yr oedd yr adroddiadau yn y newyddiaduron ar y cyfan yn ffafriol. Anghofiodd eu golygwyr gymysgu eu diferynnau arferol o wermod â'u beirniadaethau, oblegid yr oedd y syniad o blaid heddwch yn dechreu gafael, ac nid hawdd oedd ei wawdio o fod; a theimlai Mr. Richard lawenydd nid bychan wrth ganfod hynny. Ac nid tâl i'w fynwes yn unig a gafodd, ond derbyniodd dâl sylweddol yn y ffurf o Archeb am 1,000p., a Beibl Teuluaidd ardderchog, fel arwydd o barch ychydig o gyfeillion am ei lafur yn achos heddwch. Ymysg y tanysgrifwyr yr oedd enwau Cobden, Bright, Morley, a Sturge, yr hyn oedd yn dangos y pris uchel a roddai y gwŷr da hyn ar lafur Mr. Richard.