Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymreig wedi cynhesu, a'i fod yn cael "hwyl" wrth ei thraddodi. Mae y dernyn canlynol yn rhy dda i'w adael allan —

"Rhybuddiwyd ni drachefn a thrachefn y derbynnid amcan ein Cynhadledd gyda chwerthiniad. Bydded felly. Byddem yn hollol annheilwng o fod yn amddiffynwyr achos mor ddyrchafedig a chysegredig pe na buasem wedi cymeryd i mewn i'r cyfrif y gallasem gyfarfod â gwawd y coegyn a'r hunan—geisiol, y rhai sydd yn awr, ac a fuont bob amser, yn gwrthwynebu pob meddylddrych mawr a haelfrydig pan gyflwynir ef gyntaf i'r byd. (cym.) Fy atebiad i i'r dirmygwr yw hwn,— Os oes rhyw un yn tybied mai peth rhesymol ydyw i fodau deallgar geisio sefydlu cyfiawnder trwy drais, chwardded y cyfryw ! (cym.) Os oes rhyw rai yn tybied mai peth hyfryd yw fod tadau yn cael eu lusgo o ganol mynwes eu teuluoedd, a meibion o freichiau eu rhieni, a'u danfon ymaith i'w lladd a'u saethu fel cwn, a'u gadael i ymdrybaeddu yn eu gwaed, a threngu yn ddiymgeledd ar faes y frwydr, chwardded y cyfryw! (cym.) Os oes rhai yn tybied mai peth doeth a synhwyrol i genhedloedd ydyw sefyll o flaen eu gilydd, ac er mwyn dal i fyny eu hanrhydedd, gymeryd eu llethu gan fyddinoedd sefydlog anferth, y rhai sydd yn ysu eu hadnoddau yn fwy na phla o locustiaid, chwardded y cyfryw ! (cym.) Os oes rhai yn tybied mai anrhydedd i athroniaeth a dealltwriaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw fod eu holl gyfundrefn o wareiddiad yn gorffwys, nid ar wybodaeth, nid ar ryddid, nid ar grefydd, ond ar allu anifeilaidd, chwardded y cyfryw! (cym.) Os oes rhai yn meddwl mai peth santaidd a chrefyddol i'r cenhedloedd hynny sydd mewn modd arbennig yn galw eu hunain yn