Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaid gwirionedd, ac nid ceisio gogoniant. Yr wyf yn berffaith argyhoeddiadol nad yw lledaeniad gwirionedd ac ymgysegriad syml a difrifol iddo byth yn myned yn ofer. Yr wyf yn anturio dweud fod yr arddangosiad amlwg a gymerodd le yn yr Etholiad diweddaf (1880) yr atgasrwydd a ddangoswyd gan y wlad at wladlywiaeth ryfelgar, a'r awydd i droi yn ol at wladlywiaeth fwy heddychol, mewn rhan yn effaith dysgeidiaeth cyfeillion heddwch, yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf. Bu adegau pan fyddai dynion ag oedd yn gweithio i amcanion cyhoeddus, ac nid rhai personol ynglŷn â bywyd gwladwriaethol, yn teimlo yn ddigalon; yn teimlo fel y dywedodd y mwyaf o'r holl ddiwygwyr, mai yn 'ofer y llafuriodd, ac am ddım y treuliodd ei nerth;' ond yr oedd yr hyn a gyflwynent iddo ef y noswaith honno[1] yn brawf nad oedd eu llafur wedi bod yn ofer. Aent yn ol, gan hynny, at eu gwaith, wedi eu cyfnerthu a'u calonogi i lafurio hyd angeu." Er mwyn canfod effaith y cyfarfodydd hyn, gallwn nodi mai sylw un Prif Athraw Germanaidd ar ei ddychweliad o Frankfort oedd, — Aethum i Eglwys St. Paul yn Saul, a daethum allan yn Paul."

1851 Yn ystod yr Arddangosfa fawr yn y Palas Grisial, yn 1851, pryd yr oedd ymwelwyr wedi dod i Lundain o bob parth o'r byd, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch yn y brif ddinas. Ymddanghosai egwyddorion Heddwch

  1. Cyfeiriai Mr. Henry Richard at yr anerchiad prydferth a gyflwynwyd iddo yn y cyfarfod.