Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dangos hynny, ac nid oedd neb yn aros i ystyried fod y wlad hon wedi gwneud mwy na Rwsia bedair gwaith yn y cyfeiriad hwnnw yn yr un amser. Yr oedd Rwsia wedi llyncu Poland, wedi cymeryd rhan yng nghorchfygiad Hungari, ac yr oedd yn awr yn bygwth gormesu ar Twrci. Yr oedd pobl y wlad hon mewn cydymdeimlad dall â'r deyrnas a ystyriai yn wan, ac yn penderfynnu cymeryd ei phlaid. Ond y peth mwyaf gofidus oedd, fod y Wasg grefyddol a gweinidogion yr Efengyl, dynion fuont yn bleidiol i achos heddwch ychydig amser cyn hynny, megys Dr. Campbell, ac ereill, a lluaws yng Nghymru, fel mae gwaetha'r modd, wedi cael eu cymeryd ymaith gyda'r rhyferthwy.

Nid ein gorchwyl yma ydyw myned i mewn i fanylion y rhyfel ofnadwy hwn. Dywedasom fod Mr. Richard, ymysg ychydig ereill, wedi gwneud gwaith mawr yn ceisio gwrthweithio y llifeiriant. Do, fe wnaeth waith mwy o lawer nag oedd yn y golwg. Traddododd lawer iawn o areithiau, lle y caffai wrandawiad, ar hyd a lled y wlad; ond yr oedd ei lafur yn bennaf gyda'i ysgrifell. Pwy bynnag a garai wybod am y modd medrus yr oedd Mr. Richard yn gwrthwynebu y rhyfel, darllenned ei erthyglau campus yn yr Herald of Peace, yr areithiau a draddododd, a'r traethodau a ysgrifennodd, os