Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ugain o honynt yn Aelodau Seneddol—ac aed â'r mater o flaen Arglwydd Palmerston, yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd. Cawsant dderbyniad digon oeraidd, fel y gallesid disgwyl gan y fath un. Ond nid oedd Mr. Richard yn un i'w ddigaloni gyda'r fath amcan clodwiw. Cynhygiai ar fod dirprwyaeth yn myned i Paris ac yn dwyn y mater o flaen teyrn-genhadon y gwahanol wledydd. Yr oedd rhai o'i gydweithwyr yn teimlo yn rhy lwfr i ymgymeryd â'r fath waith. Aeth Mr. Richard at ei hen gyfaill, Mr. Sturge, un oedd wedi anturio at Ymherawdwr Rwsia ei hunan gyda'i ddau gyfaill yn nechreu y rhyfel, a dywedodd y Crynwr dewr wrtho,—"Yr wyt yn iawn, Richard, os nad a neb arall gyda thi i Paris, mi af fi." Felly fu. Aethant i Paris, ac ymunwyd â hwynt yno gan Mr. Charles Hindley. Tynwyd allan ddeiseb at y gwahanol Alluoedd a gynrychiolid yn y Gynhadledd, a danfonwyd copiau o honynt at y teyrn-genhadon yn Paris. Cawsant dderbyniad gwell na’u disgwyliad. Ond yr anhawster oedd sut i osod y ddeiseb o flaen y Gynhadledd. Aethant at Arglwydd Clarendon. Derbyniodd hwynt yn foesgar—y tri chennad heddwch hyn—a dadleuasant eu hachos ger ei fron. Ceisiodd ef godi yr hen gwestiwn o anrhydedd cenedl a'r anhawster i gario allan yr