Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwy rhyddfrydig, a llai rhyfelgar ac eglwysyddol na'r rhai a gyhoeddid ar y pryd ; a bu Mr. Sturge, gyda'i ddylanwad a'i bwrs, yn ymdrechgar iawn i ddwyn hyn oddiamgylch. Penodwyd Mr. Richard yn gydolygydd ag un Mr. Hamilton. Ysgrifennodd Mr. Cobden ato i ddatgan ei obaith y byddai ganddo arolygiaeth llawn ar yr erthyglau arweiniol yn y papur. Gweithiodd Mr. Richard yn egniol ynglŷn â'r papur, ac ysgrifennodd lawer iddo, canys, fel y dywed ef ei hun, yr oedd ei galon yn y gwaith. Ond cyn pen hir daeth y cwestiwn o elw i gymeryd lle moesoldeb i'r gofalaeth; methodd Mr. Richard a chadw yr arolygiaeth a ddisgwyliasai ar gynnwys y papur, ac er mwyn cadw ei gydwybod yn ddilychwin, rhoes i fyny ei gysylltiad ag ef. Nid dyma'r waith gyntaf, fel y profwyd gyda rhyfel y Crimea a rhyfel y Transvaal, a rhyfeloedd ereill o ran hynny, yr aberthwyd egwyddor ar allor elw. Bu y papur yn cael ei olygu ar ol hyn gan Mr. Justin McCarthy am bedair blynedd, ac wedi hynny gan Mr. John Morley, ac ymysg y gwŷr enwog a ysgrifennent iddo yr oedd Mr. Washington Wilks, awdwr The Half Century; Syr Edward Russell, golygydd presennol y Liverpool Daily Post; Syr John Gorrie; Mr. W. Black, y ffug-hanesydd enwog, ac ereill.